Psalms 109

Cwyn rhywun sydd mewn trafferthion

I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd.

1O Dduw, yr un dw i'n ei addoli,
paid diystyru fi.
2Mae pobl ddrwg a thwyllodrus
yn siarad yn fy erbyn i,
ac yn dweud celwydd amdana i.
3Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas;
yn ymosod arna i am ddim rheswm.
4Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo!
Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw.
5Maen nhw'n talu drwg am dda,
a chasineb am gariad.
6“Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw,
“Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys!
7Anfon e i sefyll ei brawf,
a chael ei ddedfrydu'n euog!
Ystyria ei weddi yn bechod.
8Paid gadael iddo gael byw'n hir!
Gad i rywun arall gymryd ei waith.
9Gwna ei blant yn amddifad,
a'i wraig yn weddw!
10Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref,
i gardota am fwyd.
11Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd,
ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth!
12Paid gadael i rywun fod yn garedig ato;
na dangos tosturi at ei blant!
13Dinistria ei ddisgynyddion i gyd;
gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth!
14Boed i'r Arglwydd gofio drygioni ei gyndadau,
a boed i bechod ei fam byth ddiflannu.
15Boed i'r Arglwydd eu cofio nhw bob amser,
ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes!
16Dydy e erioed wedi dangos cariad!
Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus,
a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth.
17Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl
– felly melltithia di fe!
Doedd e byth yn bendithio pobl
– cadw fendith yn bell oddi wrtho!
18Roedd melltithio iddo fel gwisgo ei ddillad!
Roedd fel dŵr yn ei socian,
neu olew wedi treiddio i'w esgyrn.
19Gwna felltith yn glogyn iddo'i gwisgo
gyda belt yn ei rhwymo bob amser.”
20Boed i'r Arglwydd dalu yn ôl i'm cyhuddwyr,
y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i.
21Ond nawr, O Arglwydd, fy meistr,
gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da.
Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi!
22Dw i'n dlawd ac yn anghenus,
ac mae fy nghalon yn rasio o achos fy helbul.
23Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd.
Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd.
24Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd;
dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel ystyllen.
25Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl!
Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau.
26Helpa fi, O Arglwydd, fy Nuw;
achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.
27Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud,
ac mai ti, O Arglwydd, sydd wedi fy achub i.
28Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi!
Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw,
a bydd dy was yn dathlu!
29Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio,
byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn.
30Ond bydda i'n canu mawl i'r Arglwydd;
ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr,
31Mae e'n sefyll gyda'r un sydd mewn angen,
ac yn ei achub o afael y rhai sy'n ei gondemnio.
Copyright information for CYM